Afon Cefni (llong)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd yr Afon Cefni yn llong hwylio haearn pedwar hwylbren oedd yn chwaer-long i'r Afon Alaw.
Fel yn achos yr Afon Alaw, cafodd yr Afon Cefni ei hadeiladu yn Glasgow gan gwmni A. Stephens & Sons ar gyfer Hughes & Co o Borthaethwy, flwyddyn o flaen yr Alaw, yn 1890.
Ni chafodd y llong anffodus yrfa hir. Yn 1894 roedd hi ar ei ffordd i San Francisco o Abertawe pan aeth ar goll gyda'r criw oll. Yn ddiweddarach cafodd darnau ohoni eu golchi i fyny yn Ynysoedd Syllan (Ynysoedd Scilly) ger Cernyw.