An Spidéal
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
An Spidéal Swydd Galway |
|
Pentref yng ngorllewin Iwerddon yw An Spidéal (Saesneg Spiddal). Mae hi'n 12 milltir i'r gorllewin o Galway/Gaillimh, ar lan y môr. Mae 1,356 o bobl yn byw yn ardal An Spidéal (2006). Gwyddeleg yw'r brif iaith a siaredir yn An Spidéal, a'r iaith a ddysgir yn yr ysgolion. Bydd myfyrwyr yn dod i An Spidéal, bob haf, o ardaloedd eraill Iwerddon, er mwyn iddyn nhw siarad Gwyddeleg a gloywi'u hiaith.