Eamon de Valera
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Éamon de Valera (ganwyd Edward George de Valera, enw Gwyddeleg Éamonn de Bhailéara) (14 Hydref 1882 - 29 Awst 1975), oedd un o arweinyddion y mudiad dros annibyniaeth Iwerddon oddi wrth Prydain ar ddechrau'r ugainfed ganrif, ac yn hwyrach arweinydd yr wrthblaid Weriniaethol yn ystod y Rhyfel Gwladol Gwyddelig 1922-23. Yn ddiweddarach, daeth yn Brif Weinidog dair gwaith (y tro cyntaf fel ail Arlywydd y Cyngor Gweithredol, ac fel y Taoiseach cyntaf (teitl y Prif Weinidog yn ôl Cyfansoddiad 1936)). Gorffennodd ei yrfa wleidyddol fel trydydd Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Uachtarán na hÉireann), rhwng 25 Mehefin 1959 a 24 Mehefin 1973.
Prif Weinidogion Iwerddon |
Eamon de Valera (3 gwaith) | John A. Costello (2 waith)| Sean Lemass | Jack Lynch (2 waith)| Liam Cosgrave | Charles J. Haughey (3 gwaith)| Garret FitzGerald (2 waith)| Albert Reynolds | John Bruton | Bertie Ahern |