Himalaya
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
.
Mae mynyddoedd yr Himalaya (Sanscrit: हिमालय) yn res o fynyddoedd yn Asia, yn gwahanu India oddi wrth Tibet. Defnyddir yr enw hefyd am yr holl fynyddoedd yn yr ardal yma, yn cynnwys y Karakoram a'r Hindu Kush.
Yn yr Himalya mae y mynyddoedd uchaf yn y byd. Y mynydd uchaf yn y byd tu allan i'r Himalaya yw Aconcagua yn yr Andes, sy'n 6,962 m o uchder, omd yn yr Himalaya mae dros gant o fynyddoedd dros 7,200 medr o uchder. Mae'r Himalaya yn rhedeg trwy chwe gwlad, Bhutan, Tseina, India, Nepal, Pakistan ac Afghanistan. Yn y mynyddoedd hyn mae tarddle nifer o afonydd mawr y byd megis yr Indus, y Ganga, y Brahmaputra a'r Yangtze. Maent yn ymestyn am tua 2,400 km o Nanga Parbat (Pakistan) yn y gorllewin i Namche Barwa yn y dwyrain.
[golygu] Prif fynyddoedd
Ymhlith prif fynyddoedd yr Himalaya mae:
- Qomolangma (Mynydd Everest) 8,848m (29,028 troedfedd), y mynydd uchaf yn y byd.
- K2 8,611m (28,251 troedfedd) ar y ffin rhwng Pacistan a Tseina. Ystyrir hwn y mynydd anoddaf yn y byd i'w ddringo.
- Kangchenjunga 8,586m (28,169 troedfedd).
- Makalu 8,462m (27,765 troedfedd).
- Dhaulagiri 8,167m (26,764 troedfedd).
- Nanga Parbat 8,125m (26,658 troedfedd). Mynydd eithriadol o beryglus i'w ddringo.
- Annapurna 8,091m (26,545 troedfedd)
- Nanda Devi 7,817m (25,645 troedfedd)
[golygu] Dringwyr a fforwyr enwog yn yr Himalaya
- Heinrich Harrer (1912 - 2006) dringwr o Awstria, awdur y llyfr enwog Saith Mlynedd yn Tibet.
- Nazir Sabir dringwr o Pacistan. Y cyntaf erioed i ddringo dau fynydd wyth mil medr gyda'i gilydd.
- Tenzing Norgay (1914 - 1986) Sherpa o Nepal, dringwr ac arweinydd, y cyntaf i gyrraedd copa Qomolangma (Everest) gyda Edmund Hillary.
- Syr Edmund Hillary (ganed 1919) dringwr o Seland Newydd, gyda Tenzing y cyntaf i ddringo Everest.
- Reinhold Messner (ganed 1944) dringwr o'r Eidal, y cyntaf i ddringo pob un o'r 14 mynydd dros 8,000 medr.