Richard Trevithick
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Peiriannydd ac adeiladwr y peiriant stêm cyntaf ar gledrau a oedd yn gweithio, oedd Richard Trevithick (13 Ebrill 1771 - 22 Ebrill 1833. Fe'i ganwyd yn Dartford, Swydd Caint.
Yn fab i beiriannydd mwyngloddio yr oedd yn blentyn wedi gweld peiriannau stêm yn sugno dŵr o'r pyllau tun a chopor dwfn yng Nghernyw.
Tynnodd cerbyd Trevithick ddeg tunnell o haearn a 70 o ddynion, o waith haearn Penydarren, Merthyr Tudful, mor bell ag Abercynon, ar 12 Chwefror 1804. Ond yr oedd yn rhy drwm ac felly ddim yn effeithiol nac yn llwyddiannus iawn.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.