Aer Lingus
Oddi ar Wicipedia
Aer Lingus yw cwmni teithiau awyr cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon, â'i bencadlys yn Nulyn. Mae'n rhedeg 41 Awyren Airbus sy'n gwasanethu Ewrop, Gogledd America a'r Dwyrain Canol. Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon biau 28% o stoc y cwmni ers 2 Hydref 2006, pan werthwyd 63% o stoc y llywodraeth. Mae'r cwmni yn cyflogi 4,000 o bobl ac mae ganddo refeniw o €1,115.8 miliwn (2006). Ei arwyddair yw "Aer Lingus, yn ymestyn am uchderau newydd." Cludodd Aer Lingus 8.6 miliwn o deithwyr yn 2006.