Afan Buallt
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am sant o Gymro yw hon. Gweler hefyd Afan (gwahaniaethu).
Sant o'r 6ed ganrif oedd Afan neu Afan Buallt neu'r Esgob Afan (fl. 500 - 542). Fe'i cysylltir â thri plwyf yn arbennig, sef Llanafan (Ceredigion), Llanafan Fawr a Llanafan Fechan (Powys). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Geredigion.
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd Afan yn fab i Gedig ap Ceredig, brenin teyrnas Ceredigion, a Tegwedd ferch Tegid Foel ac yn gefnder i Ddewi Sant. Roedd yn frawd i Ddoged ac yn o ddisgynyddion Cunedda Wledig, sefydlydd teyrnas Gwynedd. Roedd yn berthynas i Sant Teilo hefyd, trwy ei fam.
Credir iddo fod yn drydydd abad neu 'esgob' Llanbadarn Fawr. Yn ôl traddodiad, lladdwyd Afan yn Llanafan Fawr yn y flwyddyn 542 gan griw o Wyddelod ar gyrch ym Mrycheiniog. Elwir y ffrwd lle y'i lladdwyd yn Nant Esgob. Ceir Derwen Afan yn y plwyf hefyd.
[golygu] Cyfeiriadau
- T. D. Breverton, A Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndwr, 2000).