Afon Braint
Oddi ar Wicipedia
Un o afonydd Ynys Môn yw Afon Braint . Mae'n anarferol gan fod ganddi ddwy aber.
Mae'r afon yn tarddu o Lyn Llwydiarth, rhwng Pentraeth a Llanddona, ac yn llifo i'r de-orllewin. Mae'r B5420 yn croesi'r afon mewn lle o'r enw Sarn Fraint, Penmynydd.
Wrth ymyl Llanfairpwllgwyngyll, mae'r afon yn gwahanu. Mae un rhan ohoni yn llifo i'r de-ddwyrain, gan gyrraedd Afon Menai o fewn milltir ym Mhwllfanogl.
Mae'r rhan arall o'r afon yn parhau i lifo i'r de-orllewin am chwe milltir, gan gyrraedd Afon Menai mewn aber arall wrth ymyl Dwyran.
Mae'n bosobl bod yr enw Braint yn tarddu o ffurf ar enw'r dduwies Geltaidd Brigantia (a goffheir hefyd yn enw'r llwyth Celtaidd y Brigantes a drigai yng ngogledd y rhan o Brydain a elwir Lloegr heddiw).