Amgueddfa'r Ashmolean
Oddi ar Wicipedia
Amgueddfa'r Ashmolean (enw Saesneg llawn: Ashmolean Museum of Art and Archaeology) ar Stryd Beaumont, Rhydychen, Lloegr, yw'r amgueddfa brifysgol hynaf yn y byd. Mae'n gartrref i gasgliad ardderchog o drysorau archaeolegol a lluniau o gyfnod y Dadeni Eidalaidd. Cyflwynwyd casgliad crai'r amgueddfa i Brifysgol Rhydychen yn 1675 gan Elias Ashmole (1617 - 1692), a chafodd ei arddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn 1683. Codwyd adeilad newydd-glasurol hardd ar y safle yn 1845 gan C. R. Cockerell.
Yr archaeolegydd Arthur Evans oedd curadur yr amgueddfa o 1884 hyd 1908. Cedwir ei gasgliad o wrthrychau Minoaidd yno, sydd un o'r rhai gorau y tu allan i Wlad Groeg.