Amsterdam
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas yr Iseldiroedd yw Amsterdam. Saif ar Fae Ij a'r Afon Amstel yn nhalaith (provincie) Gogledd Holland.
Er mai prifddinas swyddogol yr Iseldiroedd yw Amsterdam, nid hi fu canolfan y llywodraeth erioed. Lleolir canolfan y llywodraeth, y senedd a thrigfan y frenhines i gyd yn Den Haag. Nid yw Amsterdam yn brifddinas o'i thalaith ei hun chwaith: prifddinas Gogledd Holland yw Haarlem.