Attica
Oddi ar Wicipedia
Rhanbarth hanesyddol yng Ngwlad Groeg yw Attica (Groeg: Attiki, efallai o'r gair akte 'gorynys'). Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain canolbarth y wlad, ar y tir mawr. Mae ar ffurf triongl. I'r de-orllewin ceir Gwlff Saronica. Mae braich arall o'r Môr Aegeaidd yn gwahanu Attica ac ynys Euboea. Gelwir Attica a'r ynysoedd cyfagos i'r de-ddwyrain yn y Môr Aegeaidd yn Ynysfor Attica, sy'n ffurfio rhan ogleddol yr Ynysoedd Cyclades. Mae Isthmws Corinth yn cysylltu Attica â'r Peloponesse. I'r gogledd ceir Boeotia. Mae mynyddoedd geirwon Pateras, Kithairon a Parnes yn ei diffinio yn y gogledd, gan redeg o fae Aigosthena yn y gorllewin i Sianel Euboea yn y dwyrain. Trwy'r bylchoedd rhwng y mynyddoedd hyn ceir y tair ffordd hynafol i mewn ac allan o Attica. Yn amddiffyn dinas Athen ceir mynyddoedd Aigaleos, Pentelikon a Hymettos.
Yn ôl traddodiad unwyd deuddeg dinas yr Attica hynafol yn un wladwriaeth gan yr arwr Theseus. O'r chweched ganrif CC ymlaen dominyddid Attica gan Athen.
Yn ogystal ag Athen a Piraeus lleolir dinasoedd a threfi eraill fel Megara, Eleusis, Kifissia a Markopoulon ar yr orynys. O ddidordeb arbennig i haneswyr y mae gwastadedd Marathon. Mae teml Poseidon ar Benrhyn Sounion, pwynt mwyaf deheuol Attica, yn enwog.
Yn yr Henfyd roedd Attica yn enwog ymhlith pethau eraill am ei llestri cain a elwir heddiw'n llestri Atticaidd.