Bala, Ontario
Oddi ar Wicipedia
Mae tref fechan Bala yn Muskoka Lakes Township, yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref i'r Bala yng Ngwynedd.
Mae'n sefyll ar aber Afon Moon ar lan Llyn Muskoka, i'r gogledd o Toronto. Mae'n ganolfan gwyliau poblogaidd; yn yr haf mae ei phoblogaeth o ychydig o gannoedd yn cynyddu'n sylweddol wrth i filoedd o ymwelwyr heidio yno am y diwrnod, neu am y tymor i aros mewn tai haf.
[golygu] Hanes
Cafodd ei henw gan Thomas Burgess, yr ymsefydlwr cyntaf yno yn y flwyddyn 1868. Gobaith Burgess a'i debyg oedd ennill bywiolaeth o ffermio, ond mae Bala ar Darian Canada ac o ganlyniad nid yw'n addas iawn ar gyfer amaethu. Dirywiodd y diwydiant coedwigaeth yn ogystal ac erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ffynhonnell incwm.