Basgeg
Oddi ar Wicipedia
Basgeg (Euskara) | |
---|---|
Siaredir yn: | Gwlad y Basg (Gogledd Sbaen, De Ffrainc) |
Parth: | Gorllewin Ewrop |
Siaradwyr iaith gyntaf: | 700,000 |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | anhysbys |
Achrestr ieithyddol: | iaith unigyn |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Gwlad y Basg a Navarra (Sbaen). |
Rheolir gan: | neb |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | eu |
ISO 639-2 | baq (B)/eus (T) |
ISO 639-3 | eus |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith Gwlad y Basg (Euskadi) yw Basgeg. Siaredir gan dros 700,000 o bobl yn Ngwlad y Basg, y mwyafrif llethol yn Sbaen. Ynghŷd â'r Sbaeneg, mae hi'n iaith swyddogol y tu mewn i'r Gymuned Hunanlywodraethol Fasgaidd.
Nid yw'r Fasgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel y rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop. Mae hi'n iaith unigyn, hynny yw, does dim perthynas hanesyddol wedi'i phrofi rhyngddi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol â ieithoedd y Cawcasws wedi cael eu hawgrymu. Mae'n bosib felly ei bod yn rhelyw o'r ieithoedd oedd yn cael ei siarad yng ngorllewin Ewrop cyn dyfodiad yr Indo-Ewropeaid.
[golygu] Hanes yr iaith
Ceir olion o'r Fasgeg o'r cyfnod Rhufeinig mewn arysgrifau yn yr iaith Acquitaneg o'r dalaith Rufeinig Gallia Aquitania. Mae'n eglur bod yr arysgrifau hyn mewn ffurf gynnar o'r Fasgeg.
[golygu] Enghreifftiau o'r iaith
Kaixo = shwmae
Eskerrik asko = diolch
Ikasle = myfyriwr
Ikasleak = myfyrwyr
Euskadi = Gwlad y Basg
Euskara = iaith Fasgeg
Txokolatea = siocled
Eta = a
Nire Jauna eta nire Jaunko = Fy Arglwydd a'm Duw (Geiriau Sant Tomos yn y Beibl)