Cookie Policy Terms and Conditions Beirdd yr Uchelwyr - Wicipedia

Beirdd yr Uchelwyr

Oddi ar Wicipedia

Erthyglau ynglŷn â
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid

Llenorion
550-1600 · 1600-heddiw

Cyfnodau

Canu cynnar · Oesoedd Canol
16eg ganrif · 17eg ganrif · 18fed ganrif
19eg ganrif · 20fed ganrif

Barddoniaeth a drama

Yr Hengerdd · Canu'r Bwlch
Beirdd y Tywysogion · Beirdd yr Uchelwyr
Blodeugerddi · Mesurau
Hen Benillion · Canu Rhydd
Drama · Anterliwtiau

Rhyddiaith

Rhyddiaith Cymraeg Canol
Mabinogi · Y Tair Rhamant
Trioedd Ynys Prydain
Nofelau · Straeon byrion

Erthyglau eraill

Llawysgrifau · Llên gwerin
Llenyddiaeth plant

Mynegai i erthyglau cysylltiedig
y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Beirdd yr Uchelwyr yw'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at y dosbarth o feirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr Cymru am gyfnod o dair canrif ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern. Daethant i'r amlwg ar ôl i'r beirdd proffesiynol golli nawdd y tywysogion Cymreig yn sgîl cwymp Llywelyn Ein Llyw Olaf yn 1282 a'r goresgyniad Seisnig. Roedd Beirdd y Tywysogion wedi canu i'r tywysog a'i lys (yn bennaf) ond canai'r to newydd i'r uchelwyr a etifeddasant gyfran o rym gweinyddol y tywysogion ar lefel lleol dan y gyfundrefn newydd. Am fod y cywydd yn gyfrwng mor nodweddiadol o'u gwaith cyfeirir atynt weithiau fel y Cywyddwyr, olynwyr y Gogynfeirdd, ond mae hyn yn gamarweiniol braidd am eu bod yn canu ar sawl mesur arall heblaw'r cywydd, gan gynnwys rhai o hoff fesurau Beirdd y Tywysogion. Cedwir gwaith dros 150 o'r beirdd hyn yn y llawysgrifau ac erys canran sylweddol o'u gwaith heb ei gyhoeddi.

[golygu] Arolwg

Canu mawl i'r uchelwyr a'u teuluoedd yw trwch cerddi Beirdd yr Uchelwyr, ond ceir nifer mawr o gerddi eraill yn ogystal ar bynciau amrywiol fel serch, natur, clera, ymryson barddol, dychan ac ati. Roedd rhai o'r beirdd yn perthyn i'r un dosbarth â'u noddwyr ac yn gyfarwydd iawn â'u byd, tra bod eraill yn gymharol ddistadl ac yn gorfod wynebu cystadleuaeth gan y Glêr i ennill eu bywoliaeth.

O blith yr enwocaf o Feirdd yr Uchelwyr oedd Dafydd ap Gwilym, un o feistri mwyaf y canu serch yn Ewrop gyfan. Yn y 14eg ganrif a'r ganrif olynol mae Iolo Goch a ganai i Owain Glyndŵr, Siôn Cent a feirniadai fawrion y byd yn hallt, Gutun Owain, Dafydd Nanmor, un o feistri mawr y canu mawl, Lewys Glyn Cothi a Dafydd ab Edmwnd yn sefyll allan. Mae beirdd mawr cyfnod y Tuduriaid yn cynnwys Tudur Aled, Gruffudd Hiraethog, Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal. Dirywiodd y traddodiad barddol ar ddiwedd yr 16eg ganrif, ond ni ddiflanodd yn llwyr tan ganol yr 17eg ganrif pan gollwyd y nawdd draddodiadol gan yr ychydig feirdd broffesiynol olaf.

Ystyriai Saunders Lewis fod y beirdd hyn a'u noddwyr yn cynrychioli'r diwylliant Cymraeg ar ei berffeithiaf. Mae ei feirniadaeth a dadansoddiad yn ei gyfrol Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (1931) ymhlith y mwyaf dylanwadol o'r gwaith ysgolheigaidd ar ganu Beirdd yr Uchelwyr.

[golygu] Llyfryddiaeth

Mae'r gyfres arloesol 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr', a gyhoeddir gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, yn cynnwys gwaith rhai dwsinau o'r beirdd hyn a daw cyfrolau newydd allan yn rheolaidd. Ar y cyfnod yn gyffredinol, gweler hefyd:

  • D. J. Bowen, Barddoniaeth yr Uchelwyr (Caerdydd, 1957)
  • Saunders Lewis, Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1931)
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1945)
  • Gwyn Thomas, 'Beirdd yr Uchelwyr', yn Y Traddodiad Barddol (Caerdydd, 1976)

[golygu] Gweler hefyd

Beirdd yr Uchelwyr Iolo
Casnodyn | Wiliam Cynwal | Dafydd ap Gwilym | Dafydd ap Siencyn | Dafydd Gorlech | Deio ab Ieuan Du | Einion Offeiriad | Gronw Gyriog | Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd ap Tudur Goch | Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gwerful Fychan | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Huw Ceiriog | Hywel Cilan | Hywel Ystorm | Ieuan Brydydd Hir | Iolo Goch | Iorwerth ab y Cyriog | Ithel Ddu | Lewys Glyn Cothi | Lewys Morgannwg | Llywarch Bentwrch | Llywelyn Goch ap Meurig Hen | Llywelyn Siôn | Mab Clochyddyn | Prydydd Breuan | Tomos Prys | Siôn Phylip | Siôn Tudur | Robert ab Ifan | Robin Ddu ap Siencyn | Rhisierdyn | Rhisiart ap Rhys | Rhys ap Dafydd ab Einion | Rhys Brydydd | Rhys Goch Eryri | Sefnyn | Simwnt Fychan | Siôn Cent | Tudur Aled | Tudur ap Gwyn Hagr | Yr Ustus Llwyd
Ieithoedd eraill
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu