Betws-y-Crwyn
Oddi ar Wicipedia
Mae Betws-y-Crwyn (Saesneg: Bettws-y-Crwyn) yn bentref bychan a phlwyf yn ne Swydd Amwythig, gorllewin Lloegr. Yn ôl cyfrifiad 2001 mae gan y pentref boblogaeth o 212 o bobl.
Gorwedd y pentref o fewn milltir a hanner i'r ffin â Chymru, ac mae'n un o ddyrnaid o bentrefi Seisnig sydd ag enw Cymraeg arnynt. Gorwedda 400m uwch lefel y môr, sy'n ei wneud yn un o'r pentrefi uchaf yn Swydd Amwythig, a Lloegr hefyd. Fe'i lleolir tua 16 milltir i'r gorllewin o dref Craven Arms, Swydd Amwythig, a 9 milltir i'r de-ddwyrain o'r Drenewydd, Powys.
Y pentref agosaf yw Quabbs. Mae amlwd Anchor yn gorwedd o fewn y plwyf yn ogystal.