Boeotia
Oddi ar Wicipedia
Roedd Boeotia, (Groeg: Βοιωτία), hefyd Beotia, neu Bœotia yn diriogaeth yng Ngroeg yr Henfyd ac yn awr yn enw Nomos (sir) yn yr un ardal.
Mae Boeotia i'r gogledd o ran ddwyreiniol Gwlff Corinth. Yn y de mae'n ffinio ar Attica a Megaris, yn y gogledd ar Locris Opuntiaidd a Chulfor Euripus, ac yn y gorllewin ar Phocis. Ynghanol Boeotia mae Llyn Copais.
Ceir llawer o sôn am Boeotia ym mytholeg Groeg. Yn y cyfnod hanesyddol roedd nifer o ddinasoedd pwysig yma, yn enwedig Thebai, y ddinas mwyaf pwerus yng Ngroeg am gyfnod. Dywedid mai Graia (Γραία) oedd y ddinas hynaf yng Ngroeg. Dinasoedd eraill yma oedd Orchomenus, Plataea, a Thespiae.
[golygu] Pobl enwog o Boeotia
- Epaminondas
- Gorgidas
- Hesiod
- Pelopidas
- Pindar
- Plutarch
- Narcissus (mytholeg)