Brian David Josephson
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Athro Brian David Josephson (ganwyd 4 Ionawr 1940, Caerdydd) yn ffisegydd sydd yn arbenigo mewn tra-dargludedd ac hefyd yn ddadleuwr amlwg dros y posibilrwydd o fodolaeth ffenomena paranormal. Ganwyd ef yng Nghaerdydd lle y mynychodd Ysgol Uwchradd Caerdydd cyn mynd i Goleg y Drindod, Caergrawnt.
Yng Nghaergrawnt, pan yn 22 oed, darganfyddodd Effaith Josephson, sef y ffenomenon o lif cerynt ar draws dau dra-dargludwr a wahenir gan ynysydd tenau iawn. O ganlyniad i'r darganfyddiad, enillodd Wobr Ffiseg Nobel yn 1973 ar y cyd â Leo Esaki a Ivar Giaever.
Ar hyn o bryd, mae'n athro ym Mhrifysgol Caergrawnt lle mae'n bennaeth ar y prosiect uniad meddwl a mater o fewn grŵp ymchwil Theori Mater Cyddwysedig.
[golygu] Dolenni Allanol
- (Saesneg) Tudalen Gartref Brian Josephson ar wefan Prifysgol Caergrawnt
- (Saesneg) Gwobr Ffiseg Nobel 1973