Brogyntyn
Oddi ar Wicipedia
Plasdy enwog ym mhlwyf Selatyn ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, yw Brogyntyn. Er iddo ddechrau fel ystad fechan ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, tyfodd i fod yn un o ystadau mwyaf gogledd Cymru (er ei fod yn Lloegr roedd yr ardal o gwmpas Brogyntyn yn Gymreig iawn am ganrifoedd).
Trwy gyd-briodas ymledodd cysylltiadau'r teulu ac ychwanegwyd i gyfoeth yr ystad. Tro mawr yn hanes yr ystad oedd y briodas rhwng Syr William Maurice, aer Clenennau, gydag aeres Brogyntyn yn yr 16eg ganrif. Roedd teulu'r llenor Ellis Wynne yn perthyn iddi yn y 17eg ganrif. Ar ddechrau'r 19eg ganrif, trwy briodas eto, sefydlwyd llinach Arglwydd Harlech.
Dros y canrifoedd, casglwyd llyfrgell wych ym Mrogyntyn, yn cynnwys nifer o lyfrau prin a chasgliad pwysig o lawysgrifau Cymreig. Daeth yr rhain, ynghyd â nifer fawr o bapurau a chofnodion yn ymwneud â Chymru, i feddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr 20fed ganrif lle y'u cedwir heddiw fel 'Llawysgrifau Brogyntyn'.
[golygu] Darllen pellach
Ceir cyfres o erthyglau gan E. D. Jones ar Lawysgrifau Brogyntyn a'u cefndir yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (cyfrolau v-viii, 1948-53).