Bwrgwyn
Oddi ar Wicipedia
Mae Bwrgwyn (Ffrangeg Bourgogne, Saesneg Burgundy) yn rhanbarth hanesyddol sy'n gorwedd yn fras rhwng ac o gwmpas Afon Rhône ac Afon Saone, yn Ffrainc yn bennaf, ond sy'n cynwys hefyd rhan o'r Swistir.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Y pwynt uchaf ym Mwrgwyn yw bryn Haut-Folin (901m) yn y Morvan. Y prif ddinasoedd yw Dijon, Arles, Besançon a Vienne.
Mae Camlas Bwrgwyn yn cysylltu Afon Yonne ag Afon Saône, ac yn caniatau i gychod fynd o ogledd Ffrainc i'r de. Dechreuwyd arni yn 1765 ac fe'i cwblheuwyd yn 1832. Ar ei phwynt uchaf ceir twnnel 3.333 km sy'n rhedeg yn llinell syth. Hyd y gamlas yw 242 km, gyda 209 loc. Mae'n rhedeg trwy ddwy o siroedd Bwrgwyn, Yonne a Cote d'Or.
[golygu] Hanes
Mae hanes y rhanbarth yn hir a chymhleth. Mewn gwirionedd ceir mwy nag un Fwrgwyn.
Daeth y Fwrgwyn gyntaf i fodolaeth tua dechrau'r 6ed ganrif a phasiodd dan reolaeth y Merofingiaid. Tyfodd yr ail Fwrgwndi dan eu rheolaeth i ymestyn hyd at lannau y Môr Canoldir. Cafodd y diriogaeth ei dwyn gan Siarlymaen yn 771. Ymrhanodd yr ardal yn ddwy ddugiaeth am gyfnod.
Daeth teyrnas Bwrgwyn arall i fodolaeth pan unwyd y ddwy ran o'r hen Fwrgwyn yn yr Oesoedd Canol, a choronwyd Conrad II yn frenin arni yn 933. Parhaodd y deyrnas hyd 1032, pan aeth yn rhan o'r Almaen. Ei phrifddinas oedd Arles.
Roedd Franche Comté yn ffurfio Bwrgwyn arall a elwid "Swydd Rydd Bwrgwyn". Besançon oedd ei phrifddinas, a daeth yn rhan o deyrnas Ffrainc yn 1679.
Ond y Fwrgwyn bwysicaf oedd Dugiaeth Bwrgwyn, a barhaodd o 1032 hyd 1482 ac a chwareuodd ran bwysig iawn yn hanes Ffrainc. Roedd yn rhan o deyrnas Ffrainc, yn swyddogol, ond roedd ei dugiaid, a feddai Fflandrys hefyd am gyfnod hir, yn ymddwyn fel brenhinoedd annibynol. Roedd hynny'n arbennig o wir am Charles le Téméraire ("Siarl Eofn": 1433-1477), ond yn sgîl ei farwolaeth yn 1477 llwyddodd brenin Ffrainc i gipio'r rhan fwyaf o Fwrgwyn a rhwng hynny a 1789 roedd yn dalaith oddi fewn i Ffrainc.
[golygu] Bwrgwyn heddiw
Heddiw mae Bwrgwyn yn rhanbarth yn nwyrain Ffrainc a elwir Bourgogne. Twristiaeth a gwinllanoedd yw'r prif ddiwydiannau, yn arbennig yng nghefn gwlad.
Mae'n enwog am ei gwin. Daw'r rhai gorau o'r Côte d'Or; mae Beaujolais, Chablis, Côte Chalonnaise, and Mâcon hefyd yn winoedd Bwrgwynaidd.
Mae bwydydd enwof yr ardal yn cynnwys coq au vin a boeuf bourguignon. Daw mwstard Dijon a mwstard Poupon Llwyd o Dijon.