C.P.D. Tref Y Barri
Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Tref y Barri | |||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Tref y Barri | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Llysenw(au) | Y Dreigiau | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Sefydlwyd | 1912 | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Maes | Parc Jenner, Y Barri, Bro Morgannwg |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynhwysedd | 3,500 | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Cadeirydd | Stuart Lovering | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheolwr | Gavin Price | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynghrair | Cynghrair Cymreig (De) | ||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Mae Clwb Pêl-droed Tref y Bari (Saesneg: Barry Town Football Club) yn Glwb Pêl-droed sy'n chwarae ar Barc Jenner, ac yn chwarae yn y Gynghrair Gymreig (De). Am sawl tymor ddaru'r clwb ddominyddu Pel-Droed yng Nghymru, ond oherwydd problemmau ariannol daeth eu statws Proffesiynol i ben a gorffenodd y clwb yn olaf yn yr Uwchgynghrair yn nhymor 2003-04.
[golygu] Hanes
Ar ol blynyddoedd o ddomiwnyddu Pel-Droed yn Ne Cymru yn ystod yr 80'au, ymunodd y Clwb a Chynghrair De Lloegr yn 1989. Ond erbyn 1992 ac ar ol tymor wedi'i gwahardd o chwarae eu gemau yng Nghymru, ymunodd y clwb a'r Pyramid Cymreig unwaith eto. Rhaid oedd treulio'r cyntaf yng Nghyngrair De Cymru (Un cam o dan y Cynghrair Cenedlaethol), ond roedd hon yn dymor i'w chofio. Fe enillon nhw eu pencampwriaeth, Cwpan y Gynghrair a Chwpan Cymru. Oherwydd hyn cafwyd y fraint o gynyrchioli Cymru yng Nghwpan Enillwyr Cwpannau Ewrop, ond colli o 7-0 oedd eu tynged.
Enillodd y Clwb, y Cynghrair Cenedlaethol am y tro cyntaf y tymor canlynol. Oherwydd hyn, aeth y clwb ymlaen i Gwpan UEFA lle bu iddynt fynd ar rediad wych o guro Dinaburg o Latfia, a Budapesti Vasutas ar giciau o'r smotyn i gyrraedd y Rownd Gyntaf. Aberdeen o'r Alban oedd y gwrthwynebwyr, ac er iddynt fethu a parhau ymhellach y tro yma, daeth y tymor yna a mwy o lwyddiant gyda'r goron driphlyg.
Enillodd y clwb y Gynghrair 7 tymor allan o 8, ac roedd eu statws Proffesiynol wedi golygu eu bod hyd heddiw, y clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes Y Cynghrair. Yn anffodus, daeth y freuddwyd yma i ben ar gychwyn tymor 2003/04. Wnaeth y cadeirydd, John Fashanu ymddiswyddo gan adael y clwb mewn dyled o £1m. Cafodd y chwaraewyr a'r tim rheoli eu cloi allan o'r maes.
Rhaid oedd cychwyn o'r dechrau, a wnaeth y garfan amateur newydd sbon ddim enill gem tan mis Chwefror. Fe wnaeth y clwb orffen y tymor ar waelod y Gynghrair a chael ei diddymu yn ol lawr i'r Adran Gymreig (De).