Cap-Rouge
Oddi ar Wicipedia
Tref yn nghanol Québec, Canada yw Cap-Rouge, ar lannau gogleddol Afon St Lawrence. Yn wreiddiol, roedd yn dref annibynol, ond ymgorfforwyd o fewn dinas Québec ym 2002. Erbyn heddiw, mae'n rhan o fwrdeisdref Laurentien. Poblogaeth Cap-Rouge ym 2002 oedd 14,163 o drigolion.
[golygu] Hanes
Ceisiodd Jacques Cartier sefydlu'r dreflan barhaol Ewropeaidd gyntaf yng ngogledd America ar safle presennol Cap-Rouge ym 1541. Goroesodd treflan Charlesbourg-Royal am flwyddyn o 1541 hyd yr haf o 1542, dan ddioddef gaeaf caled o achos tywydd llym ac ymosodiadau gan yr Iroquoiaid brodorol yn Stadacona. Ym 2006 darganfuwyd olion y dreflan gan archaeolegwyr Canadaidd, gan gynnwys crochenwaith faïence Eidalaidd o'r cyfnod, sy'n cadarnhau presenoldeb Ewropeaid ar y safle.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Adroddiad am ddarganfyddiadau archaeolegol yn Cap-Rouge (Saesneg)