Capel Bangor
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yng ngogledd Ceredigion yw Capel Bangor. Saif ar lan ogleddol Afon Rheidol 5 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth. Rhed y ffordd A44 drwy'r pentref.
Mae gan y pentref orsaf reilffordd ar Reilffordd Dyffryn Rheidol, dros y bont ar Afon Rheidol.
Lleolir Tafarn Tynllidiart yn y pentref, mae hi'n bragu ei chwrw ei hun, hon oedd Tafarn y Flwyddyn, Ceredigion yn 2006. Mae'r tafarn hefyd yn dal record, hon yw'r bragdu masnachol lleiaf yn y byd, mae'n bragu 40.9 litr ar y tro yn unig.
Er mai bychan ydy'r pentref mae hefyd gorsaf betrol, clwb golff a siop wnio yno.