Cathen
Oddi ar Wicipedia
Sant Cymreig oedd Cathen (weithiau Cathan) (fl. diwedd y 6ed ganrif).
Yn ôl yr achau, roedd yn fab i Gawrdaf fab Caradog Freichfras. Ei frodyr oedd y seintiau Medrod (ni ddylir ei gymysgu â'r Medrawd Arthuraidd) ac Iddon.
Sefydlodd llan, yn Llangathen, Sir Gaerfyrddin. Ceir Ffynnon Garthen ar fferm yn y plwyf hwnnw. Yn ôl rhai ffynonellau cafodd ei gladdu ar Ynys Bŷr, sy'n awgrymu fod ganddo gysylltiad â'r fynachlog gynnar yno.
[golygu] Cyfeiriadau
- T. D. Berverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)