Catrin Finch
Oddi ar Wicipedia
Telynores o Lanon, Ceredigion yw Catrin Finch (ganwyd ym 1980).
Cafodd ei gwersi telyn cyntaf gan Elinor Bennett pan nad oedd ond wyth oed. Bu yn ysgol Purcell yn Llundain pan oedd yn 16 oed, gan astudio dan law Skaila Kanga, ac aeth ymlaen wedyn i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Fe'i penodwyd yn delynores frenhinol i Dywysog Cymru yn y flwyddyn 2000. Yn 2003, priododd â Hywel Wigley, mab Dafydd Wigley ac Elinor Bennett.