Cefn Einion
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan gwledig gwasgaredig yn ne Swydd Amwythig, Lloegr, yw Cefn Einion. Mae'n gorwedd 2 filltir i'r de-orllewin o bentref Colebatch rhwng pentrefi bychain Bryn a Mainstone. Nid yw ond tua milltir a hanner o'r ffin â sir Powys, Cymru.
Y trefi agosaf yw Clun a Bishop's Castle. Mae'r pentref yn gorwedd yn y bryniau tua 280m uwch lefel y môr. Llifa afon Unk heibio i orllewin y pentref.