Ceinwen
Oddi ar Wicipedia
Santes Gymreig gynnar oedd Ceinwen (?5ed ganrif neu 6ed ganrif). Yn ôl traddodiad roedd hi naill ai'n ferch neu'n wyres i Frychan, brenin Brycheiniog.
Unig sefydliadau Ceinwen yw Cerrigceinwen a Llangeinwen, yn ne-orllewin Ynys Môn. Roedd ganddi ffynnon sanctaidd yng Ngherrigceinwen.
Mae un ffynhonnell yn cysylltu'r santes â Llanceinwyry ger Llanddeusant, yn ôl G. H. Doble.
Gwylmabsant Ceinwen yw 8 Hydref.
[golygu] Ffynhonnell
- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)