Colossus Rhodes
Oddi ar Wicipedia
Codwyd Colossus Rhodes tua 280 C.C. i amddiffyn y fynedfa i harbwr Rhodes. Roedd ganddo daldra o tua 30m. Fe'i ystyrid yn un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd.
Safai ar ddau ben y ddau forglawdd a amddiffynai'r harbwr a dywedir bod llongau dan hwyliau llawn yn medru pasio o dano. Cafodd ei wneud allan o efydd ar lun dyn cydnerth, noeth neu led-noeth, a oedd yn cynrychioli Helios, duw'r Haul. Roedd yn waith y peirianydd ac artist Chares o Lindos (tref ar ynys Rhodes), disgybl Lysippus, a dywedir iddo gymryd 12 flynedd i'w orffen. Y tu mewn iddo rhedai grisiau haearn troellog i fyny i'r pen ac oddi yno gellid gweld ymhell â chymorth gwydrau o ryw fath a hongiai ar wddw y Colossus.
Dechreuwyd ar y gwaith tua 300-280 C.C. a daeth yn enwog yn gyflym ledled yr Hen Fyd. Ond nid arosodd yn gyfan yn hir iawn. Yn 224 neu 222 C.C. trawyd ynys Rhodes gan ddaeargryn a chwympodd rhan uchaf y Colossus i'r harbwr. Cafwyd sawl ymgais i adfer y Colossus ond methiant fu hynny bob tro; honnai'r ynyswyr fod oracl a gafwyd yn Delphi wedi rhagweld hynny. Dywedir i'r gweddillion gael eu gwerthu gan y Saraseniaid, oedd wedi meddianu'r ynys, i fasnachwr Iddewig o Edessa yn O.C. 672. Roedd yna gymaint o efydd fel y bu rhaid wrth 900 camel i'w gludo i ffwrdd.
Ceir cyfeiriadau at y Colossus yng ngwaith Pliny'r Hynaf (liber 34, pennod 7, 18).
[golygu] Ffynonellau
- J. Lempriere, A Classical Dictionary (arg. newydd, Llundain, d.d.)
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)