Cors Ddyga
Oddi ar Wicipedia
Cors yng ngorllewin Ynys Môn yw Cors Ddyga (Saesneg: Malltraeth Marsh).
Ar un adeg roedd Cors Ddyga yn cael ei ffurfio gan aber Afon Cefni i'r dwyrain o bentref Malltraeth ac yn ymestyn bron hyd at dref Llangefni yng nghanol yr ynys. Roedd yn gwneud teithio o'r de i'r gogledd yn rhan orllewinol yr ynys yn anodd iawn. Dechreuodd hyn newid ar ôl 1824, pan adeiladwyd Cob Malltraeth ac y dechreuwyd canaleiddio Afon Cefni. Heblaw sythu Afon Cefni ei hun, adeiladwyd dwy ffos fawr, un bob ochr i'r afon.
Trwy wneud hyn, trowyd y rhan fwyaf o'r gors yn borfa. Bu cloddio am lo yma am gyfnod, a thrwy i'r tir syrthio i mewn i'r hen weithfeydd, ffurfiwyd y llynnau a elwir yn "Llynnau Gwaith-glo".
Mae darn sylweddol o ran ddwyreiniol Cors Ddyga yn awr yn warchodfa adar yn perthyn i'r RSPB, sydd wedi gwneud llawer o waith i adfer cynefin corsiog naturiol yma. Nid yw'r warchodfa ar agor i'r cyhoedd yn swyddogol hyd yma, er bod llwynr cyhoeddus yn ei chroesi.