Cristiolus
Oddi ar Wicipedia
Sant Cymreig oedd Cristiolus (fl. 6ed ganrif).
Yn ôl traddodiad roedd Cristiolus yn un o feibion Hywel fab Emyr Llydaw ac felly'n frawd i Sulien, Rhystud a Derfel Gadarn, ac efallai Dwywe (Dwywau) hefyd. Mae rhai achau yn ei wneud yn fab i Hywel Fychan fab Hywel fab Emyr Llydaw ac yn gefnder i Sant Cadfan.
Cysegrir eglwys Llangristiolus, Môn, ynghyd ag Eglwyswrw a Penrhydd (Sir Benfro), i Gristiolus.