Cyfamodwyr
Oddi ar Wicipedia
Plaid grefyddol a gwleidyddol yr yr Alban yn y 17eg ganrif oedd Y Cyfamodwyr. Yn grefyddol, roeddynt yn gysylltiedig a Presbyteriaeth ac a gwrthwynebiad i Esgobaeth. Gwrthwynebent ymdrechion i hyrwyddo Anglicanaeth yn yr Alban.
Daw'r enw'r o'r cyfeiriadau at "gyfamod" yn y Beibl. Arwyddwyd y Cyfamod Cenedlaethol yn 1638, a dilynwyd ef gan un arall, y Solemn League and Covenant, yn 1643. Bu gan y Cyfamodwyr ran amlwg yn Rhyfel Cartref yr Alban (1644 - 1645), rhan o Ryfeloedd y Tair Teyrnas.
Erbyn y 1680au, yn enwedig dan Iago VII, bu ymladd rhwng y llywodraeth a'r Cyfamodwyr, oedd yn blaid bur fechan erbyn hynny. Lladdwyd llawer o'r Cyfamodwyr, a rhoddwyd diwedd ar y mudiad fel grym gwleidyddol.