Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd
Oddi ar Wicipedia
Prif gyfnewidfa stoc yr Unol Daleithiau ac un o'r pwysicaf o gyfnewidfeydd stoc y byd yw Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd. Fe'i lleolir ar Wall Street yn Ninas Efrog Newydd ac felly cyfeirir ati yn aml fel "Wall Street."
Yn Hydref 1929 cafwyd Cwymp Wall Street pan gwympodd gwerth y farchnad stoc yn gyflym iawn. Daeth hyn ag ymchwydd economaidd yr UDA yn y 1920au i ben, ac arweiniodd at y Dirwasgiad Mawr.