Daearyddiaeth Afghanistan
Oddi ar Wicipedia
Gwlad fynyddig yng Nghanolbarth Asia yw Afghanistan. Yn nhermau daearyddiaeth wleidyddol, mae'n gorwedd rhwng Iran i'r gorllewin, Pacistan i'r de a'r dwyrain a gwledydd cyn-Sofietaidd Canolbarth Asia i'r gogledd (Turkmenistan, Uzbekistan a Tadzhikistan). Yn y gornel ogledd-ddywrain eithaf mae Coridor Wakhan yn ymestyn i ffin Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Mae Afghanistan yn wlad o wastadeddau uchel a mynyddoedd. Mae cadwyn fawr yr Hindu Kush yn cyrraedd dros 7,000 m o uchder yn Tirich Mir, ar y ffin â Phacistan yn y gogledd-ddwyrain. Ceir amrywiadau mawr mewn hinsawdd mewn lle cymharol gyfyngedig, yn amrywio o hinsoddau sych ac isdrofannol i hinsawdd alpaidd eithafol yn y mynyddoedd.
Mae'r dinasoedd a threfi pwysig yn cynnwys y brifddinas Kabul a thref hanesyddol Ghazni yn y canolbarth, Herat a Kandahar yn y gorllewin, Faizabad, Konduz, Mazar-i-Sharif a Maimana yn y gogledd, a Jalalabad yn y dwyrain.
Mae dŵr yn gymharol brin yn y wlad, yn arbennig yn y de. Yr unig afonydd o bwys yw Afon Oxus, sy'n rhedeg ar hyd y ffin ogleddol; afon Hari Rud yn y canolbarth a'r gorllewin, Afon Helmand (Rud-e Helmand) yn y de-orllewin, sy'n rhedeg dros y ffin i Iran i gael ei llyncu yng nghorstir hallt Daryacheh-ye Sistan; ac Afon Kabul (Darya-ye Kabul) sy'n rhedeg o ardal Bwlch Khyber i gyfeiriad Kabul. Ond ym mynyddoedd y canolbarth a'r gogledd ceir nifer o ffrydiau ac afonydd llai.
[golygu] Gweler hefyd
- Hanes Afghanistan
- Hindu Kush
- Taleithiau Afghanistan
Afghanistan · Armenia · Azerbaijan1 · Bahrain · Bangladesh · Bhutan · Brunei · Cambodia · Corea (Gogledd Corea · De Corea) · Cyprus · Dwyrain Timor · Emiradau Arabaidd Unedig · Fiet Nam · Georgia1 · Gwlad Iorddonen · India · Indonesia · Irac · Iran · Israel (gweler hefyd tiriogaethau Palesteinaidd) · Japan · Kazakhstan1 · Kuwait · Kyrgyzstan · Laos · Libanus · Malaysia · Maldives · Mongolia · Myanmar · Nepal · Oman · Pakistan · Pilipinas · Qatar · Rwsia1 · Saudi Arabia · Singapore · Sri Lanka · Syria · Tajikistan · Gwlad Thai · Tsieina (Gweriniaeth Pobl China (Hong Kong • Macau) · Gweriniaeth Tsieina (Taiwan)) · Twrci1 · Turkmenistan · Uzbekistan · Yemen