Daearyddiaeth wleidyddol
Oddi ar Wicipedia
Daearyddiaeth wleidyddol yw'r gangen neu is-ddisgyblaeth o Ddaearyddiaeth sy'n ymwneud ag astudio'r ddaear yn ôl ei rhaniadau gwleidyddol. Mae daearyddwyr gwleidyddol yn tueddu i rannu eu maes yn dri dosbarth neu radd, gyda astudiaeth o'r wladwriaeth yn ganolbwynt. Uwchben rôl y wladwriaeth ceir yr astudiaeth o'r cydberthynas rhwng gwledydd a gwladwriaethau neu ddaearwleidyddiaeth, ac islaw iddo ceir yr astudiaeth o leoedd (e.e. rhanbarthau, taleithiau, etc.). Gellid diffinio prif faes astudiaeth yr is-ddisgyblaeth hon fel y cydberthynas rhwng pobl, gwladwriaeth(au) a thiriogaeth(au).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.