Dafydd ap Llywelyn
Oddi ar Wicipedia
Dafydd ap Llywelyn (c. 1208–Chwefror 25, 1246), oedd Tywysog Cymru a Gwynedd rhwng 1240 a 1246.
[golygu] Etifedd Llywelyn
Dafydd oedd unig fab Llywelyn Fawr o'i wraig briod Siwan, merch John, brenin Lloegr. Yn ei flynyddoedd olaf aeth Llywelyn i lawer o drafferth i gael cydnabod Dafydd fel ei etifedd ac olynydd. Yn ôl cyfraith Cymru, buasai'r deyrnas yn cael ei rhannu rhwng Dafydd a'i frawd hŷn Gruffudd, sef mab gordderch Llywelyn Fawr, ond trwy rym ei awdurdod llwyddodd Llywelyn i gael y tywysogion Cymreig a'i ddeiliaid eraill i gydnabod Dafydd fel ei unig etifedd cyfreithlon. Llwyddodd yn ogystal i gael ewythr Dafydd, Harri III, brenin Lloegr, i'w gydnabod fel Tywysog Cymru yn 1220 (y cyntaf i gael y teitl yma gyda chydnabyddiaeth Lloegr, er i'w dad fod yn Dywysog Cymru de facto), a pherswadiodd y Pab i gyhoeddi mam Dafydd, Siwan, yn gyfreithlon i gryfhau sefyllfa Dafydd.
[golygu] Tywysog
Ar farwolaeth Llywelyn yn 1240 daeth Dafydd yn dywysog Gwynedd. Er fod Harri III wedi derbyn ei hawl i deyrnasu ar Wynedd, nid oedd yn barod i adael iddo gadw'r tiroedd yr oedd ei dad wedi eu goresgyn tu allan i Wynedd. Yn 1241 ymosododd y brenin ar Wynedd, a gorfodwyd Dafydd i ildio iddo. Collodd ei diroedd tu allan i Wynedd a bu raid iddo drosglwyddo ei frawd Gruffudd i'r brenin. Yr oedd Dafydd wedi bod yn cadw Gruffudd yn garcharor, ac yn llaw y brenin gallai fod yn arf defnyddiol yn erbyn Dafydd. Difethwyd unrhyw gynlluniau oedd gan y brenin pan fu farw Gruffudd wrth geisio dianc o Dwr Llundain yn gynnar yn 1244.
Yr oedd hyn yn rhyddhau dwylo Dafydd, a gwnaeth gynghrair gyda thywysogion eraill Cymru i ymosod ar feddiannau Seisnig yng Nghymru. Cafodd y gwrthryfel gryn lwyddiant, ac yn 1245 ymosododd y Brenin Harri ar Wynedd eto, ac adeiladodd gastell newydd yn Neganwy. Bu ymladd ffyrnig, ond diweddwyd yr ymgyrch gan farwolaeth annisgwyl Dafydd yn ei lys yn Abergwyngregyn yn Chwefror 1246. Fe'i claddwyd gyda'i dad yn Abaty Aberconwy.
[golygu] Yr olyniaeth
Gan nad oedd priodas Dafydd ag Isabella, merch William de Braose wedi cynhyrchu aer, rhannodd dau fab Gruffudd, Llywelyn ap Gruffudd ac Owain ap Gruffudd, y deyrnas rhyngddynt, a pharhau'r rhyfel gyda'r brenin trwy gydol 1246. Yn Ebrill 1247 cyfarfu Llywelyn ac Owain a'r brenin yn Woodstock a daethant i gytundeb ag ef, ar gost colli llawer o'u tiroedd (gweler Cytundeb Woodstock).
O'i flaen : Llywelyn Fawr |
Tywysogion Gwynedd Dafydd ap Llywelyn |
Olynydd : Llywelyn ap Gruffudd |