Deiniolen (sant)
Oddi ar Wicipedia
Sant o Gymro oedd Deiniolen (fl. diwedd y 6ed ganrif a dechrau'r 7fed ganrif). Roedd yn fab i Sant Deiniol, nawddsant dinas Bangor, ac am hynny'n cael ei alw'n Ddeiniolfab neu Ddeiniol Fab yn ogystal. Roedd yn wŷr i Sant Dunawd.
Dywedir iddo fod yn fynach ym mynachlog Bangor Is-Coed ond gorfu iddo ffoi oddi yno ar ôl Brwydr Caer (tua 613). Daeth i ardal Bangor a sefydlu cell ac eglwys yn Llanddeiniolen. Roedd ffynnon ger yr eglwys a elwid yn Ffynnon Ddeiniolen yn iachau cleifion.
Ceir Llanddeiniol Fab ar Ynys Môn hefyd, ger Llanidan.