Den Haag
Oddi ar Wicipedia
Canolfan llywodraeth a senedd yr Iseldiroedd a thrigfan Brenhines yr Iseldiroedd yw Den Haag neu ’s-Gravenhage (Cymraeg hefyd Yr Hâg). Mae hefyd yn brifddinas o'r dalaith (provincie) De Holland (Zuid-Holland). Mae'n drydedd o ran poblogaeth ymysg dinasoedd y wlad. Er bod llywodraeth a senedd yr Iseldiroedd wedi'u lleoli yno, nid prifddinas yr Iseldiroedd yw Den Haag. Y brifddinas yw Amsterdam.