Derfel Gadarn
Oddi ar Wicipedia
Sant o Gymro oedd Derfel Gadarn (fl. 6ed ganrif). Roedd yn fab i Hywel ap Emyr Llydaw ac yn frawd i Arthfael. Dywedir iddo astudio gyda'i frawd yn ysgol Illtud Sant yn Llanilltud Fawr.
Ei brif sefydliad yw eglwys Llandderfel, ger Y Bala, Gwynedd. Ceir Capel Llandderfel ger Cwmbran hefyd, ond adfail ydyw rwan. Fe'i cysylltir â Brwydr Camlan ac Ynys Enlli hefyd mewn rhai traddodiadau.
Cedwid delw o'r sant yn ei eglwys yn Llandderfel. Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern roedd yn cael ei addoli gan y plwyfolion a phererinion a deithiai yno i gael eu gwella o afiechydon. Roedd yn iachau gwartheg hefyd. Roedd yn arfer cludo'r delw i fyny bryn ger yr eglwys mewn gorymdaith ar y Pasg. Caniateid i blant marchogi ceffyl Derfel (efallai i gael ei fendith neu amddiffyn) ar ŵyl mabsant Derfel. Llosgid y delw yn Llundain yn ystod y Diwygiad Protestannaidd (gweler Llandderfel).