Digain
Oddi ar Wicipedia
Sant Celtaidd cynnar oedd Digain (fl. dechrau'r 5ed ganrif efallai).
Yn ôl traddodiad roedd Digain yn fab i Gustennin Gorneu, brenin Brythonaidd Dyfnaint. Os gwir hynny, mae'n bosibl ei fod yn frawd i Erbin ac felly'n ewythr i Geraint fab Erbin, un o arwyr y Tair Rhamant, ond mae yna ansicrwydd ynglŷn am hynny.
Dim ond un eglwys a gysylltir â Digain, sef eglwys plwyf Llangernyw (sir Conwy). Yn ogystal â'r eglwys ceir Ffynnon Ddigain yng Nghoed Digain ger y pentref.
[golygu] Ffynonellau
- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; argraffiad newydd 1991)