Dyfnan
Oddi ar Wicipedia
Sant Cymreig oedd Dyfnan (fl. 5ed ganrif).
Ychydig a wyddys amdano. Yn ôl yr achau roedd yn un o feibion niferus Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog. Sefydlodd llan yn Llanddyfnan, Ynys Môn, a dywedir ei fod wedi ei gladdu yno.
Roedd gan Llanddyfnan dri chapel yn deillio ohoni, yn Llanbedr-goch, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf.
Dethlid ei wylmabsant ar ddiwedd Ebrill (21-24 Ebrill).
[golygu] Cyfeiriadau
- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001). ISBN 1-903529-01-8