George Jeffreys
Oddi ar Wicipedia
Cyfreithiwr yn enedigol o Gymru oedd George Jeffreys, Barwn 1af Jeffreys o Wem, (15 Mai, 1645 - 18 Ebrill, 1689). Ganed Jeffreys yn Plas Acton, Gwaunyterfyn, Wrecsam, yn chweched mab i John a Margaret Jeffreys. Bu ei daid, John Jeffreys (bu farw 1622) wedi bod yn Brif Ustus cylchdaith Môn o'r Sesiwn Fawr, ac roedd ei dad wedi ymladd dros y brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr.
Addysgwyd ef yn Ysgol Amwythig o 1652 hyd 1659, yna Ysgol St Paul's yn Llundain hyd 1661, Ysgol Westminster am flwyddyn ac yna Coleg y Drindod, Caergrawnt yn 1662, gan adael heb radd ar ôl blwyddyn i ynuno â;r Inner Temple.
Enillodd ffafr y brenin Iago'r II, a'i gwnaeth yn Farwn Jeffreys o Wem pan ddaeth i'r orsedd ac yn Arglwydd Ganghellor yn 1685. Daeth yn enwog fel y gŵr oedd yn llywyddu dros yn "Bloody Assizes", pan ddedfrydwyd llawer o ddilynwyr Dug Mynwy yn dilyn ei wrthryfel.
Pan diorseddwyd Iago II, ceisiodd ffoi o'r wlad, ond daliwyd ef a'i garcharu yn Nhŵr Llundain. Bu farw yno yn Ebeill 1689.