Gorsedd y Beirdd
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Gorsedd.
Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion a phwysigion y byd diwylliannol Cymraeg, a sefydlwyd gan Iolo Morganwg yn Llundain yn 1792 yw Gorsedd y Beirdd (enw llawn Gorsedd Beirdd Ynys Prydain).
Cynhaliwyd cyfarfod yng ngwesty'r Ivy Bush yn 1819 yng Nghaerfyrddin, a penderfynwyd cynnwys yr Orsedd fel rhan o'r Eisteddfod. Ers hynnu mae'r Orsedd wedi dod yn fwyfwy cyfystyr â seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol, yn arbennig seremoniau'r Cadeirio, Y coroni a'r Fedal Ryddiaeth. Mae ambell i Archdderwydd wedi defnyddio ei safle i wneud datganiadau gwleidyddol.
Gwaith dychymyg Iolo Morganwg yw'r Orsedd. Bathodyn yr Orsedd yw y Nod Cyfrin sydd ar holl regalia'r Orsedd. Ymhlith y rhai sy'n cael eu gwisgo gan yr Archdderwydd mae coron, dwyfronneg a teyrnwialen. Yn perthyn i'r orsedd hefyd y mae Banner yr Orsedd, Cleddyf yr Orsedd a'r Hanner Cleddyf. Bydd cleddyf yr orsedd yn cael ei defnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremoniau'r eisteddfod. Cleddyf heddwch yw hi a dyna pam na fydd byth yn cael ei thynnu yr holl ffordd o'r wain.
Cyflwynir y Corn Hirlas i'r archdderwydd gan un o famau'r fro i estyn croeso'r ardal i'r eisteddfod. Yn hanesyddol roedd yr hen gorn yfed yn llys y tywysogion yn estyn croeso i'r gwahoddedigion i'r llys. Bydd un o ferched yr ardal yn rhoi Aberthged i'r Archdderwydd sef ysgyb o ŷd, gwair a blodau'r mae yn arwydd o roddion Duw i'r ardal.
Mae tri grwp o aelodau yn perthyn i'r orsedd ac mae gan bob grŵp ei liw. Daw'r Archdderwydd bob amser o blith y rhai sy'n gwisgo gwyn. gellir dod yn aelod drwy lwyddo mewn arholiad, cael eich dewis i ddod yn aelod neu drwy ennill y gadair, y goron neu'r Fedal Ryddiaeth mewn Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal ag ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol mae'r Orsedd yn cyfarfod yng Nghylch yr Orsedd.
[golygu] Gweler hefyd
- Gorseth Kernow - Gorsedd Cernyw
- Goursez Vreizh - Gorsedd Llydaw