Gredifael
Oddi ar Wicipedia
Sant o Gymro oedd Gredifael (fl. 6ed ganrif). Roedd yn fab i Ithel Hael yn ôl un traddodiad. Treuliodd gyfnod yn Hendy-gwyn ar Daf, clas gynnar a chanolfan eglwysig yn ne-orllewin Cymru.
Ei unig sefydliad yw Eglwys Gredifael, Penmynydd, Môn; enw arall ar y pentref oedd Llanredifael. Yn llan yr eglwys ceir Bedd Gredifael a chredid bod cysgu ar y maen yn iacháu'r claf. Gerllaw yr eglwys ceir Ffynnon Redifael mewn llecyn o'r enw Cae Gredifael. Fel yn achos nifer o ffynhonnau eraill yn y wlad roedd hon yn gysylltiedig â iacháu dafadennau trwy eu pigo â phin a'i thaflu i'r ffynnon wedyn.
[golygu] Cyfeiriadau
- Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954). Tud. 142.