Cookie Policy Terms and Conditions Gruffydd Robert - Wicipedia

Gruffydd Robert

Oddi ar Wicipedia

Dyneiddiwr a gramadegydd Cymraeg oedd Gruffydd Robert (cyn 1531 - ar ôl 1598). Mae'n fwyaf enwog am ysgrifennu gramadeg Cymraeg mewn chwe rhan, un o ramadegau cyntaf yr iaith Gymraeg, a'r un cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith ei hun.

Taflen Cynnwys

[golygu] Ei fywyd

Roedd yn hanfod o ogledd Cymru, naill ai o Ddyffryn Clwyd neu o Ynys Môn. Cafodd radd M.A. o Eglwys Crist, Rhydychen ym 1555, cyn cymryd swydd fel archddiacon Môn ym 1558. Ar fuan ar ôl ei benodiad, bu farw y frenhines Mair I o Loegr. Ailgyflwynwyd Protestaniaeth yng Nghymru a Lloegr gyda Deddf Goruchafiaeth (1559), ond arhosodd Catholigiaeth yn gryf yng Nghymru, a Gruffydd ymysg y rhai a arhosai'n ffyddlon i'r hen grefydd.

Aeth i'r cyfandir gyda Morys Clynnog, gan dreulio dwy flynedd efallai gydag yntau yn Louvain. Mae'n bosib iddo ddeithio yn rhannau eraill o'r cyfandir yr adeg honno, megis Ffrainc a'r Almaen. Erbyn mis Ionawr 1564 roedd Gruffydd Robert a Morys Clynnog wedi dod yn gaplaniaid yn yr Ysbyty Seisnig yn Rhufain. Roedd Thomas Goldwell, esgob Llanelwy wedi cael ei benodi'n warden yno ym 1561, ac felly mae'n posib iddo fod wedi eu gwahodd yno. Erbyn 1567, pryd cyhoeddwyd rhan gyntaf ei ramadeg, roedd Gruffydd yn cael ei gyflogi gan Cardinal Carlo Borromeo, Archesgob Milan. Cyfeirir at Gruffydd fel doctor gan Anthony Munday a Morris Kyffin. Gallasai ef fod wedi derbyn doethuriaeth yn Louvain neu gan Borromeo yn Milan. Roedd yn gyffeswr i Borromeo ac yn ganon duwinyddol yn Eglwys Gadeiriol Milan. Yn ystod pla 1567 gweithiodd ef fel cynorthwy-ydd yn mynd allan i ddosbarthu elusennau gyda Borromeo. Arhosodd yn Milan am bron ugain mlynedd yng ngwasaneth Borromeo. Ym 1582, gofynnodd Gruffydd am gael ymddiswyddo fel canon duwinyddol ond am gael swydd arall, mae'n debyg, am nad oedd ei Eidaleg yn ddigon rhugl i bregethu ynddi. Doedd dim canoniaeth arall yn wag, felly cafodd bensiwn ym 1594. Ar ôl marwolaeth Borromeo ym mis Tachwedd 1584, cafodd fwy o hamdden i weithio ar ei ramadeg.

[golygu] Ei ramadeg

Cyhoeddwyd rhan gynta'r gramadeg fel Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg ym Milan ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1567. Mae'r ail ran, ar y rhannau ymadrodd (gyfiachyddiaeth), yn ddi-ddyddiad, ond yn debyg o fod wedi ymddangos ym 1584 neu 1585. Mae'r ddwy ran gyntaf yn defnyddio ffurf ymgom mewn gwinllan rhwng ddau gyfaill, Gr. (hynny yw, Gruffydd ei hun) a Mo. (hynny yw, Morys Clynnog). Dyw'r drydedd ran (ar donyddiaeth) ddim yn defnyddio'r un ffurf, efallai am fod Morys Clynnog wedi boddi tua 1581 a Borromeo, y cyfeirir ato fel meistr neu arglwydd yn y gramadeg, wedi marw ym 1584 hefyd. Mae'r rhannau eraill yn fyrrach: mae'r bedwaredd ran yn trafod mesurau cerdd dafod, y bumed ran yn rhoi casgliad o gerddi, a chynnwys y chweched ran yw dechrau cyfieithiad De Senectute gan Cicero.

[golygu] Llyfrau eraill

[golygu] Ffynonellau

  • G. J. Williams (gol.) Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939)

[golygu] Gweler hefyd

Ieithoedd eraill
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu