Gwaelod-y-Garth
Oddi ar Wicipedia
Mae Gwaelod-y-Garth yn bentre agos i Gaerdydd, ym mhlwyf Pentyrch, mae wedi bod yn ran o Ddinas Caerydd ers 1996, gynt bu'n ran o De Morgannwg ers ad-drefnu 1974. Fe'i lleolir rhwng Caerdydd a Pontypridd.
[golygu] Hanes
Yn y 16eg ganrif roedd Gwaelod-y-Garth yn enwog am ei mwyngloddfeydd haearn. Agorwyd y gweithfeydd haearn cyntaf rhwng 1565 a 1625. Yn ystod y 19eg ganrif ailagorwyd gweithfeydd yno gan gmwni Blackmoor Booker. Bu ymgyrchu i gadw'r gweithfeydd yn y 1990au.
[golygu] Enwogion
- Dr Mary Gillham - un o'r merched cyntaf i ymweld ag Antarctica, yn 1959.
- Jane Davidson - Gweinidog yn llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Catrin Dafydd - Awdures a Llenor, ac ennillydd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd 2005