Gwenffrewi
Oddi ar Wicipedia
Santes Gymreig oedd Gwenffrewi, weithiau Gwenfrewi (bl ddechrau'r 7fed ganrif).
Daw'r wybodaeth amdani o fucheddau o'r 12fed ganrif. Dywedir mai ei thad oedd Tefyth o Degeingl, a bod ei mam, Gwenlo, yn chwaer i sant Beuno. Yn ôl y traddodiad, syrthiodd pendefig ieuanc o'r enw Caradog mewn cariad a hi, a phan wrthododd hi ef, torrodd ei phen a chleddyf. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl, rholiodd ei phen i lawr y llethr, a chododd ffynnon yn y fan, sy'n awr yn Ffynnon Wenffrewi yn Nhreffynnon. Adferwyd hi trwy wyrth gan ei hewythr, sant Beuno.
Yn ddiweddarach symudodd i bentref Gwytherin, lle bu farw. Claddwyd hi yno, ond yn 1138 trosglwyddwyd ei gweddillion i Abaty Amwythig. Mae'n ymddangos nad oedd Gwenffrewi yn adnabyddus iawn cyn y cyfnod yma, ond ysgrifennwyd buchedd iddi gan Robert, prior abaty Amwythig, rhwng 1140 a 1167, a dechreuodd ei henwogrwydd ledaenu. Daeth Treffynnon yn fan boblogaidd i brerinion yn ddiweddarach yn y Canol Oesoedd. Ei gwylmabsant yw 3 Tachwedd.