Gwrach
Oddi ar Wicipedia
Yn ôl y darlun traddodiadol, hen wraig ydy'r wrach, a hen wraig hyll. Ond y tu ôl i'r ffigwr llên gwerin a gwrachod Calan Gaeaf yn y diwylliant traws-Iwerydd cyfoes, yn aml iawn mae chwedlau am wrachod yn deillio o gof am ferched hyddysg mewn meddyginiaeth draddodiadol ac efallai hefyd am offeiriadesau cyn-Gristnogol. Yn ogystal mae rhai pobl heddiw yn ystyried eu hunain yn "wrachod" mewn crefyddau Oes Newydd fel wicca a Newydd-dderwyddiaeth.
[golygu] Gwrachod Cymru
Ceir sawl chwedl a thraddodiad am wrachod yn llên gwerin Cymru. Y ffigwr enwocaf efallai yw Ceridwen yn Hanes Taliesin, sy'n berwi pair llawn o berlysiau'r maes i gael hylif gwybodaeth ac Awen i'w rhoi i'w fab Afagddu (ond mae'n debyg mai duwies oedd Ceridwen yn wreiddiol ac nid yw manylion eraill ei phortread yn cyfateb i'r darlun o'r wrach draddodiadol). Yn chwedl Peredur fab Efrog, un o'r Tair Rhamant, ceir Naw Widdon Caerloyw (mae gwiddon yn hen air am 'wrach').
Gweler hefyd :
- Gwrachod Llanddona, criw o wrachod maleisus ym Môn
- Gwrach y Rhibyn
[golygu] Gwrachod mewn ffuglen
Mae gwrachod yn gymeriadau cyffredin mewn rhai mathau o lenyddiaeth. Yng Ngroeg yr Henfyd cawn "gwrach" - offeiriades yng ngwasanaeth y dduwies Hecate - yn gymeriad amlwg yn y nofel gynnar Yr Asyn Euraidd gan Apuleius.
Dewines ydy gwrach hefyd, hen neu ifanc, fel yn y nofel Gwrach y Gwyllt, a sgrifennodd Bethan Gwanas.