Gwytherin (Conwy)
Oddi ar Wicipedia
Mae Gwytherin yn bentref yn sir Conwy. Saif ar y ffordd B5384 rhwng Pandy Tudur a Llansannan, i'r gogledd o Fynydd Hiraethog ac i'r de o bentref Llangernyw. Mae Afon Cledwen yn llifo heibio'r pentref.
Yn ôl traddodiad sefydlwyd yr eglwys gan Sant Gwytherin yn y 6ed ganrif. Yn ôl traddodiad arall, treuliodd y santes Gwenffrewi gyfnod yma fel meudwy, a chladdwyd hi yma. Yn ddiweddarach symudwyd ei gweddillion i Abaty'r Benedictiaid yn Amwythig. Hyd at y 18fed ganrif roedd cist bren yn yr eglwys oedd, yn ôl y sôn, unwaith wedi cynnwys gweddillion Gwenffrewi. Mae'r rhan fwyaf o'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 19eg ganrif, ond mae cerrig beddau o'r 14eg ganrif tu mewn.
Ym mynwent yr eglwys mae pedair carreg hynafol wedi eu gosod mewn rhes o'r dwyrain i'r gorllewin. Ar un ohonynt ceir arysgrif mewn Lladin; "VINNEMAGLI FILI / SENEMAGLI" ("[Carreg] Vinnemaglus fab Senemaglus"), Credir fod yr arysgrif yn dyddio i'r 5ed neu'r 6ed ganrif, ond cred rhai fod y cerrig eu hunain yn llawer hŷn.
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Bae Penrhyn | Betws-y-Coed | Betws yn Rhos | Bylchau | Capel Curig | Capel Garmon | Cefn-brith | Cerrigydrudion | Conwy | Craig-y-don | Cwm Penmachno | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolgarrog | Dolwyddelan | Dwygyfylchi | Eglwysbach | Gellioedd | Glasfryn | Gwytherin | Gyffin | Henryd | Llanbedr-y-cennin | Llandrillo-yn-Rhos | Llandudno | Llanddoged | Llanddulas | Llanefydd | Llanfairfechan | Llanfair Talhaearn | Llanfihangel Glyn Myfyr | Llangernyw | Llangwm | Llanrwst | Llanrhos | Llanrhychwyn | Llan Sain Siôr | Llansanffraid Glan Conwy | Llansannan | Llysfaen | Maenan | Y Maerdy | Melin-y-coed | Mochdre | Pandy Tudur | Penmachno | Penmaenmawr | Pensarn | Pentrefoelas | Pentre-llyn-cymmer | Pentre Tafarn-y-fedw | Rowen | Rhydlydan | Rhyd y Foel | Trefriw | Tyn-y-groes | Tywyn | Ysbyty Ifan |