Hu Gadarn
Oddi ar Wicipedia
Arwr Cymreig chwedlonol, ffrwyth dychymyg Iolo Morgannwg yn bennaf. Fe'i portreadir gan Iolo yn ei "Drydedd Gyfres" o Drioedd Ynys Prydain (a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology of Wales) fel math o arwr cenedlaethol a oedd yn ymgorffori pob agwedd ar ddiwylliant y Cymry, yn fath o hynafydd totemaidd, fel petai. Yn ôl Iolo arweiniodd Hu y Cymry i Ynys Prydain o Ddeffrobani (Sri Lanka). Dysgodd Hu y Cymry sut i gyfanheddu'r tir a byw yn heddychlon â'i gilydd yn ogystal a chrefft Cerdd Dafod er mwyn diogelu'r cof am yr hyn a fu. Ymddengys fod Iolo wedi benthyg Hu Gadarn o "Gywydd y Llafuruwr" gan Iolo Goch (c.1320-c.1398). Yn y cywydd hwnnw mae Iolo Goch yn adrodd sut y bu rhaid i Hu Gadarn, oedd yn Ymherawdr Caergystennin, lywio aradr a bwydo ei hun o ffrwyth ei waith yn unig. Mae'r foeswers yn deillio o ffynhonnell Ffrangeg a gyfieithwyd i'r Gymraeg yn y 13eg ganrif dan yr enw Campau Charlymaen; trosodd y cyfieithydd enw un o'r arwyr, Hugun le Fort fel "Hu Gadarn". Roedd llawer o bobl yn credu yn y chwedl, sy'n ddeniadol, a cheir nifer o gyfeiriadau at Hu yn llenyddiaeth y 19eg ganrif.