Hunkpapa
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Hunkpapa yn fand o frodorion Americanaidd, yn un o saith gangen llwyth y Sioux Lakota. Yn y 1870au, yn y cyfnod pan ymladdai brodorion Americanaidd y Gwastadeddau Mawr yn erbyn yr Unol Daleithiau er mwyn ceisio cadw eu tiroedd a'u hannibyniaeth, ymladdasent gyda'r enwocaf o'i benaethiaid Tatanka Lyotake (Sitting Bull). Heddiw mae mwyafrif y Lakota Hunkpapa yn byw yn Standing Rock Indian Reservation, a leolir yn Ne a Gogledd Dakota. Cawsant eu gorfodi i symud yno ar ôl colli eu tiroedd traddodiadol yn ardal y Bryniau Duon ar ôl cael eu twyllo sawl tro a gorfod ymladd â byddin Unol Daleithiau America.
Mae'r enw "Hunkpapa" yn air Sioux sy'n golygu "Porthwyr" neu "Pen y Cylch"; roedd gan yr Hunkpapa draddodiad o osod eu lletai wrth y fynedfa i gylch y Cyngor Mawr pan gynhelai'r Sioux eu cynadleddau.
[golygu] Rhai Hunkpapa enwog
- Tatanka Lyotake (Sitting Bull)
- Two Moons
- Black Moon
- Running Antelope
- Gall