Hywyn
Oddi ar Wicipedia
Sant cynnar o Gymru oedd Hywyn neu Henwyn (fl. 6ed ganrif). Roedd yn fab i Gwyndaf Hen a'i wraig Anna neu, yn ôl ffynhonnell arall, Gwenonwy. Ond mae llinach achau arall yn ei wneud yn fab i Ddingad. Roedd yn frawd i Sant Baglan a'r Santes Meugant.
Treuliodd gyfnod fel mynach yng nghlas enwog Llanilltud Fawr. Dywedir iddo fod yn beriglor i Sant Cadfan.
Cysegrir eglwys Aberdaron ar benrhyn Llŷn, lle gwasanaethodd y bardd R. S. Thomas am gyfnod, i Sant Hywyn. Daeth yn abad ar y clas ar Ynys Enlli, dros y swnt. Byddai pererinion yn arfer galw yn eglwys Sant Hywyn cyn groesi am Enlli.
Gwylmabsant: 1 Ionawr a 6 Ionawr.
[golygu] Cyfeiriadau
T. D. Berverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).